SL(6)676 – Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025
Cefndir a diben
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o gyfres o Reoliadau y cyfeirir atynt ar y cyd fel Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cymru) 2025, sydd hefyd yn cynnwys Rheoliadau Newid Hinsawdd (Cyllideb Garbon) (Cymru) 2025 (sy'n gosod cyllideb garbon, a elwir yn Gyllideb Garbon 4, ar gyfer 2031-2035) a Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025 (sy'n diwygio'r diffiniad o uned garbon).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru, yn unol ag adran 33(4) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).
Mae Rheoliad 3 yn gosod terfyn ar swm yr unedau carbon y caniateir eu credydu i gyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer cyfnod cyllidebol 2026-2030 i 0% o’r gyllideb garbon.
Cyn gosod y Rheoliadau drafft, cafodd Gweinidogion Cymru gyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd, ac ystyried y cyngor, yn unol ag adran 49(1) o Ddeddf 2016.
Y weithdrefn
Cadarnhaol Drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.
Materion technegol: craffu
Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Yn rheoliad 2, defnyddiwyd y term “y Ddeddf” sydd wedi’i ddiffinio yn rhaglith y Rheoliadau hyn. Fodd bynnag, nid yw'n bosibl diffinio term yn y rhaglith ar gyfer y darpariaethau gweithredol yng nghorff y Rheoliadau – gweler Drafftio Deddfau i Gymru, paragraff 4.14(5). Felly, dylid ailadrodd teitl Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn llawn yn rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
19 Tachwedd 2025